‘Mae’r straeon yn dal yno’: y Cymoedd yn canu o’r newydd
Mae prosiect Cân y Cymoedd yn rhoi cyfle i bobl greu caneuon gwerin newydd am eu cymunedau, eu cynefin a’u profiadau nhw #cerddoriaeth
https://golwg.360.cymru/celfyddydau/cerddoriaeth/2199160-straeon-cymoedd-canu-newydd?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

‘Mae’r straeon yn dal yno’: y Cymoedd yn canu o’r newydd
Mae pobl yn y Cymoedd yn troi eu straeon, eu hatgofion a’u milltir sgwâr yn ganeuon gwerin newydd, mewn prosiect sy’n ceisio ailgysylltu cymunedau mewn oes o sgriniau a doomscrolling. Mae Cân y Cymoedd, prosiect gan Trac Cymru, yn gweithio gyda phobl yng Nghastell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf i greu cerddoriaeth newydd am y llefydd maen nhw’n eu galw’n gartref. “Mae lot o bobl yn teimlo ar goll ac yn ddigyswllt, efallai nawr, yn fwy nag erioed,” meddai rheolwr y prosiect, Antwn Owen-Hicks, wrth golwg360. “Mae cerddoriaeth draddodiadol a chanu gwerin erioed wedi cynnig cartref croesawgar i bob un ohonom, lle diogel sy’n perthyn i ni ac i’n cymunedau.” Yn ôl Antwn, mae pobl yn chwilio am ffyrdd mwy ystyrlon o ddod at ei gilydd, tu hwnt i ffonau a chyfryngau cymdeithasol. “Mae technoleg yn ein helpu ni i gadw mewn cysylltiad, ond nid yw hynny o reidrwydd yr un peth â chysylltu,” meddai. “Mae rhywbeth arbennig iawn yn digwydd pan fydd pobl yn eistedd mewn ystafell gyda’i gilydd, yn rhannu straeon, yn gwrando ac yn creu rhywbeth ar y cyd. “Dydych chi ddim yn gallu sgrolio heibio i rywun sy’n dweud stori bersonol am ei gymuned neu ei deulu.
Golwg360Band newydd yn rhoi bywyd cyfoes i alaw Gymreig o’r 18fed ganrif
Bydd sengl gyntaf CANNA, ‘Y Pibydd Coch’, yn cyfuno alaw a gyhoeddwyd gyntaf yn 1784 â jazz, byrfyfyrio ac arbrofi rhythmig. #cerddoriaeth
https://golwg.360.cymru/celfyddydau/cerddoriaeth/2199090-band-newydd-rhoi-bywyd-cyfoes-alaw-gymreig-18fed?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Band newydd yn rhoi bywyd cyfoes i alaw Gymreig o’r 18fed ganrif
Mae band newydd o bum cerddor yn gobeithio cynnig llais ffres i fyd gwerin Cymru drwy ail-ddychmygu alaw draddodiadol a gyhoeddwyd dros 240 o flynyddoedd yn ôl. Bydd CANNA yn rhyddhau eu sengl gyntaf, Y Pibydd Coch, ddydd Gwener, 12 Mehefin.
Golwg360Albwm hirddisgwyliedig y band gwerin o Fachynlleth
Mae’r band poblogaidd o Fachynlleth, Lo-Fi Jones yn lansio eu halbwm hirddisgwyliedig, Coming Sŵn ar Fehefin 12 #cerddoriaeth
https://golwg.360.cymru/celfyddydau/cerddoriaeth/2198938-albwm-hirddisgwyliedig-band-gwerin-fachynlleth?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Albwm hirddisgwyliedig y band gwerin o Fachynlleth
Mae Lo-fi Jones, pedwarawd gwerin-indi o Fachynlleth, yn rhyddhau eu halbwm hir cyntaf, Coming Sŵn, ar Fehefin 12. Cafodd yr albwm ei recordio yn bennaf yn yn y Borth gyda’r cynhyrchydd Mike West. Cafodd traciau ychwanegol eu recordio yng Nghaerdydd gyda Mei Gwynedd, yn Rhydychen, ac yn llofft y prif leisydd, Siôn Rickard.
Golwg360
Aleighcia a’r trombôns yn tanio!
Ers ei sefydlu yn 2015, mae band cyrn pres o Eryri wedi cydweithio gyda rhai o artistiaid amlycaf y Sîn Roc Gymraeg megis Mr Phormula, Alys Williams, Tara Bandito a Parisa Fouladi. A’r artist diweddaraf i ddod yn rhan o syrcas Band Pres Llareggub yw’r gantores Reggae o Gaerdydd, Aleighcia Scott.
Golwg360Bydd Bwncath yn dod yn ôl i Glwb y Libs am ddwy noson arall ym mis Hydref! Naeth bob tocyn werthu mwy na mis o flaen llaw’r llynedd, felly paid colli mas eleni! Tocynnau’n mynd ar werth ar-lein nos Wener 5 Mehefin am 7:30yh, ac wedyn yn siop Caban, Kings Road ddydd Sadwrn 6 Mehefin.
https://www.ticketsource.co.uk/ClwbCanna
#ClwbCanna #Cymraeg #Caerdydd #Gig #Gigs #CerddoriaethFyw #ClwbCanna #Tocyn #Tocynnau #Miwsig #Cerddoriaeth #Cardiff #IaithGymraeg #LiveMusic #yagym #Bwncath
Hir Oes i MOJO yn 40 oed!
Bu MOJO yn brysur yn gigio ers 40 mlynedd, a’r cyngherddau hynny yn cynnwys taith gyda Take That a gig gyda’r Beach Boys #CylchgrawnGolwg #cerddoriaeth
https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2198267-mojo?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Hir Oes i MOJO yn 40 oed!
Bydd y band bytholwyrdd yn lansio albwm newydd yng nghlwb Wellmans Llangefni nos Sadwrn yma… Mae cyfeillgarwch band o Fôn wedi eu clymu nhw at ei gilydd am ddeugain mlynedd. Ugain mlynedd ers eu halbwm ddiwethaf, ac er mwyn nodi pen-blwydd gyrfa recordio’r grŵp yn 40 oed, mae MOJO newydd ryddhau albwm newydd.
Golwg360Catrin Finch, Cerddorfa’r BBC a Gareth Glyn yn dathlu Dewi Sant
Mae’r delynores amlwg, Catrin Finch, wedi cydweithio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i recordio gwaith Gareth Glyn, Vita Davidis #cerddoriaeth
https://golwg.360.cymru/newyddion/2198259-catrin-finch-cerddorfa-gareth-glyn-dathlu-dewi?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Catrin Finch, Cerddorfa’r BBC a Gareth Glyn yn dathlu Dewi Sant
Mae’r delynores Catrin Finch a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi dod at ei gilydd er mwyn creu recordiad byw o Vita Davidis, wedi’i gyfansoddi gan y cyfansoddwr poblogaidd Gareth Glyn. Cafodd Vita Davidis ei berfformio yn wreiddiol fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi’r gerddorfa yn 2019.
Golwg360“Mae’r Urdd yn cynnig cyfle i ni wthio’r ffiniau”
Prif Gyfansoddwr 2026 sy’n trafod dylanwad yr Urdd ar ei bywyd a’r anogaeth mae’n ei chynnig iddi arbrofi #cerddoriaeth
https://golwg.360.cymru/celfyddydau/cerddoriaeth/2198159-urdd-cynnig-cyfle-wthio-ffiniau?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

“Mae’r Urdd yn cynnig cyfle i ni wthio’r ffiniau”
Mae rhywbeth arbennig iawn am y cerddorion ifainc mae’r Urdd yn eu meithrin, yn ôl Prif Gyfansoddwr yr Urdd 2026. Derbyniodd Heledd Wynn Newton o Gaerdydd Fedal Gyfansoddi’r Eisteddfod yn gynharach heddiw (Mai 26), wedi dod yn drydydd yn y gystadleuaeth ddwywaith o’r blaen.
Golwg360Heledd Wynn Newton o Gaerdydd ydy Prif Gyfansoddwr yr Urdd 2026
Fe gynhyrchodd y gyfansoddwraiggcylch o ganeuon corawl SATB pedwar symudiad ar sail y Gododdin gan yr henfardd Aneirin #cerddoriaeth
https://golwg.360.cymru/newyddion/2198135-heledd-wynn-newton-gaerdydd-prif-gyfansoddwr-urdd?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Heledd Wynn Newton o Gaerdydd ydy Prif Gyfansoddwr yr Urdd 2026
Heledd Wynn Newton, cyfansoddwraig 21 oed o’r brifddinas, ydy Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026. Daeth yn fuddugol mewn cystadleuaeth oedd yn galw am gyfansoddiad wedi’i seilio ar awdl o’r Gododdin gan yr henfardd Aneirin.
Golwg360
Canu am gael amser da mewn amser drwg
Dod â phositifrwydd mewn cyfnod dryslyd – dyna yw gobaith Morgan Elwy wrth iddo lansio ei albwm ddiweddara’, Amser Da Mewn Amser Drwg. Nid yw Morgan yn celu rhag trafod y pynciau mawr wrth iddo ganu: ‘Rhoi stop i’r rhyfela ydi’r helynt yn fama, canwn y mantra o ddawnsio a gwledda’.
Golwg360