‘Cyfraniad unigryw i hanes modern Cymru’: Teyrngedau i’r hanesydd a’r awdur Peter Stead

Peter Stead oedd sylfaenydd gwobr lenyddol Dylan Thomas a chyhoeddodd nifer o gyfrolau am hanes Cymru #celfyddydau

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/2194297-cyfraniad-unigryw-hanes-modern-cymru-teyrngedau?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

‘Cyfraniad unigryw i hanes modern Cymru’: Teyrngedau i’r hanesydd a’r awdur Peter Stead

Bu farw’r hanesydd, awdur a darlledwr uchel ei barch yr Athro Peter Stead yn 83 mlwydd oed. Cafodd ei eni yn y Barri yn 1943 ac fe symudodd y teulu i Dre-gŵyr ger Abertawe yn ystod ei arddegau. Astudiodd Hanes ym mhrifysgol Abertawe pan oedd yr Athro Glanmor Williams yn ddarlithydd yn yr adran, a daeth yntau’n uwch-ddarlithydd Hanes yno maes o law.

Golwg360

‘Gweithwyr diwylliannol yn weithwyr go iawn’

Mae Equity, undeb y celfyddydau, yn galw ar bleidiau’r Senedd i ymrwymo i wella amodau gwaith gweithwyr mewn sector “hanfodol” #celfyddydau

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/2193994-gweithwyr-diwylliannol-weithwyr-iawn?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

‘Gweithwyr diwylliannol yn weithwyr go iawn’

Mae’r undeb llafur Equity wedi cyhoeddi maniffesto i’r celfyddydau perfformio ac adloniant ar gyfer etholiadau’r Senedd ym mis Mai, gan alw ar ymgeiswyr i gydnabod fod gweithio ym maes diwylliant yn cyfrif fel gwaith.

Golwg360

Theatr Soar yn “trawsnewid” y Gymraeg ym Merthyr Tudful wedi pymtheg mlynedd

Lis McLean, Prif Weithredwr Menter Iaith y dref, sy’n trafod llwyddiant y ganolfan gymunedol #celfyddydau

https://golwg.360.cymru/newyddion/2193861-theatr-soar-trawsnewid-gymraeg-merthyr-tudful-wedi?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Theatr Soar yn “trawsnewid” y Gymraeg ym Merthyr Tudful wedi pymtheg mlynedd

Mae Canolfan Soar Merthyr Tudful yn profi bod y Gymraeg yn medru gyrru ffyniant cymunedol, yn ôl Prif Swyddog Menter Iaith y dref ac un o wirfoddolwyr mwyaf brwd y ganolfan. Mae pymtheg mlynedd bellach ers i Ganolfan a Theatr Soar agor ei drysau’n llawn.

Golwg360
Synfyfyrion Sara: Fy hanner awr fawr

“A phen-blwydd hapus i Sara Edwards o Wrecsam, gan Mam, Dad, a’i brawd mawr Dawson” Tua 1988 oedd hi pan ges i sylw ar raglen Yr hanner awr fawr, ynghyd â dangos llun ohonof mewn ffrog werdd dywyll, a’m gwallt tenau mewn pigtails wedi’u plethu – un bob ochr i ‘mhen.

Golwg360

Cymru ac Awstralia ar restr fer yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd eleni

Bydd 47ain Gŵyl Cyfryngau Celtaidd yn cael ei chynnal yn ninas Béal Feirste rhwng 2 a 4 Mehefin. #celfyddydau

https://golwg.360.cymru/newyddion/2193572-cymru-awstralia-restr-cyfryngau-celtaidd-eleni?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Cymru ac Awstralia ar restr fer yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd eleni

Mae rhestr fer yr Oscars Celtaidd wedi’i rhyddhau – a sawl cynhyrchiad Cymreig yn ymgiprys am y dlws y ‘Torc’ yng Ngogledd Iwerddon eleni. Mae’r Gŵyl Cyfryngau Celtaidd ar waith ers 1980, ac yn gyfle i’r cenhedloedd a’r rhanbarthau Celtaidd – Yr Alban, Cernyw, Cymru, Galisia, Iwerddon, Llydaw ac Ynys Manaw – ddathlu eu llwyddiannau a dod ynghyd i gynnal gweithdai, rhwydweithio a rhannu syniadau.

Golwg360

Prosiect newydd i uno llyfrgelloedd cenedlaethol y Deyrnas Unedig ac Iwerddon

Bydd Syr Keir Starmer a’r Taoiseach Micheál Martin yn cyhoeddi’r rhaglen arloesol – gwerth €750,000 – mewn cynhadledd arbennig yn Corcaigh #celfyddydau

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/2193527-prosiect-newydd-llyfrgelloedd-cenedlaethol-deyrnas?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Prosiect newydd i uno llyfrgelloedd cenedlaethol y Deyrnas Unedig ac Iwerddon

Mae disgwyl i lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon gyhoeddi cyfres arloesol o arddangosfeydd a digwyddiadau i’w cynnal ar y cyd ym mhedair llyfrgell genedlaethol y ddwy wlad. Mae hynny’n sgil cyfarfod arbennig rhwng y Taoiseach Micheál Martin a’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer yn Corcaigh heno (Mawrth 13), fydd yn canolbwyntio ar gryfhau perthynas y ddwy wlad wedi Brexit.

Golwg360

Enwebiad Gwobrau Pantomeim y Deyrnas Unedig ar gyfer hen wreigan Theatr y Lyric

“Mae’r Lyric wedi creu traddodiad pantomeim Nadolig blynyddol gyda gwerthoedd cynhyrchu a pherfformiadau gwych” #celfyddydau #theatr

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/2193472-enwebiad-gwobrau-pantomeim-deyrnas-unedig-gyfer?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Enwebiad Gwobrau Pantomeim y Deyrnas Unedig ar gyfer hen wreigan Theatr y Lyric

Mae hen wreigan (Dame) pantomeimiau Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin wedi’i henwebu ar gyfer un o wobrau pantomeim mwyaf y Deyrnas Unedig. Mae Steve Elias – actor, cyfarwyddwr a choreograffydd o Gaerfyrddin – wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr yr hen wreigan (Dame) orau gan Gymdeithas Pantomeim y Deyrnas Unedig.

Golwg360

Galw am ddeddf newydd fydd yn rhoi “blaenoriaeth haeddiannol” i ddiwylliant

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn galw am ddeddf newydd fyddai’n cynnig amddifyniaeth statudol i fyd diwylliant #celfyddydau

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/2192279-galw-ddeddf-newydd-fydd-rhoi-blaenoriaeth?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Galw am ddeddf newydd fydd yn rhoi “blaenoriaeth haeddiannol” i ddiwylliant

Mae Cymru mewn peryg o “niwed hirdymor” i gyfleoedd diwylliannol heb gyfraith newydd, medd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Dywed Derek Walker fod gostyngiad o 17% mewn cyllid cyhoeddus ers pasio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) wedi gwthio’r sector i “argyfwng”, gan fygwth y bywyd diwylliannol sy’n sail i hunaniaeth, iaith, a chydlyniant cymunedol Cymru.

Golwg360
Machynlleth yn anelu i fod yn Dref Ddiwylliant 2028

Mae Machynlleth yn y ras i fod yn Dref Ddiwylliant Cymru 2028. Sefydliad MOMA sy’n arwain y cais gyda chefnogaeth gref gan Gyngor Tref Machynlleth a sefydliadau a phartneriaid lleol, gan gynnwys Biosffer Dyfi, Radio Dyfi, Parc Beicio Dyfi a Sploj.

Golwg360

Ffilm am straeon mudwyr yn ennill gwobr rhyngwladol

Mae’n cynnig cipolwg ar fywydau gwahanol fudwyr ynghyd â thrigolion eraill Istanbul lle mae 16 miliwn o bobl yn byw #celfyddydau

https://golwg.360.cymru/celfyddydau/2192071-ffilm-straeon-mudwyr-ennill-gwobr-rhyngwladol?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg

Ffilm am straeon mudwyr yn ennill gwobr rhyngwladol

Mae ffilm newydd sy’n adrodd straeon personol mudwyr sy’n ffoi i Istanbul wedi ennill gwobr cyn iddi gael ei rhyddhau fis Ebrill eleni. Cafodd y rhaglen ddogfen newydd, HOPE: In the Shadows of the Bosphorus, ei chynhyrchu a’i chyfarwyddo gan gymrawd ymchwil o Brifysgol Abersytwyth, Dr Latif Tas.

Golwg360