Prynais i'r llyfr 'ma flwyddyn a hanner yn ôl, a dim ond nawr dw i’n ceisio un o’i ryseitiau - macaroni “cawslyd”. Mae’r saws yn cynnwys sgwosh, cnau cashew, miso, “nŵtsh” a thatws.

Dw i wedi mynd yn arfer coginio'r un set bach o brif brydiau, bron bob tro'n defnyddio ffa Hodmedod’s. Amser cael rhywbeth gwahanol.

https://uk.bookshop.org/p/books/the-vegan-instant-pot-cookbook-wholesome-indulgent-plant-based-recipes-nisha-vora/4397121?ean=9780525540953

#coginio #BwydFigan #Figanawr

#Cyflwyniad / an #introduction:

Awdur #ffantasi ac #arswyd sydd hefyd yn dablo mewn #isdeitlo a #sgriptio.

Hogyn #Bangor yn wreiddiol, boi #Pontypridd bellach.

Disgwyliwch fwydro #Cymraeg: #llyfrau, #cŵn, #bwydfigan a #Springsteen. Uffar o frand.

/

#Fantasy and #horror #author who also dabbles in #subtitling and #scriptwriting.

A #Bangor lad, now in #Pontypridd.

Expect nonsense about #books, #dogs, #veganfood and #Springsteen, mainly in #Welsh. What a brand.

Sŵp seleriac ac afal i ginio, i ddefynddio hanner y seleriac oedd yn yr oergell, a rhyw 0.01% o'r afalau sy gyda ni.

Do'n i ddim yn meddwl bod lemwns gyda ni, felly wnes i hepgor y croen lemwn sy yn y rysáit - ac wedyn ffeindio un yn nrws yr oergell, wrth gwrs.

Eitha neis, bach yn rhy drwchus fel hyn, felly ychwanegaf ragor o laeth ceirch y tro nesa.

https://thepeskyvegan.com/recipes/vegan-celeriac-soup/

#BwydFigan

Vegan Celeriac Soup with Apple, Lemon & Thyme

This vegan celeriac soup combines delicate flavours to provide a simple yet delicious bowl of goodness that's gluten-free and dairy-free.

The Pesky Vegan