"Y flodeugerdd gyntaf o lenyddiaeth cwiar yn Gymraeg"
“Ddaeth y syniad llynedd, yn rhannol oherwydd Llyfrau Lliwgar y clwb llyfrau LHDTC+ [Cymraeg] cyntaf yng Nghymru sydd bellach yn cwrdd ym Mangor ac yng Nghaerdydd.
"Ac mi oedden ni wedi penderfynu bod yn rhaid cael testun yn Gymraeg a thestun yn Saesneg bob yn ail oherwydd prinder deunydd Cymraeg – testunau, llyfrau, cerddi cwiar yn Gymraeg.
"A wedyn meddwl, 'dan ni’n licio bob math o flodeugerddi yng Nghymru – Hoff Gerddi Serch Cymru, Hoff Gerddi Natur Cymru, Blodeugerdd Barddas, bob math o bethau – ond doedd ‘na ddim blodeugerdd o lenyddiaeth LHDTC+ yn Gymraeg.”
#Wales #Barddoniaeth #Poetry #LHDTC #LGBTQ #Blodeugerdd #Anthology